I'r wydd am ei faeddu noswaith.
1 Fel yr oeddwn gynt nos-waith
2 gwyw fu 'r dyn, gwae fi o'r daith,
3 Gwedi dyfod iw gwydr-ball
4 yn lle 'r oedd gwenn gymen gall,
5 Ai hir gennyd yr ydwyd
6 dyn goddefgar serchog wyd
7 Fy aur gwyddost mae rhy-hir
8 a ba ham oedd na bae hir
9 Nycha gwelwn wr tra-glew
10 yn bwrw carw-naid llygaid llew
11 yn dwyn llywch-hynt i'm ymlid
12 yn greulawn ac yn llawn llid,
13 O ddig am ei wraig ddisclaer
14 vn dewr cryf myn Duw a'r crair.
15 Gwybuym encil rhaddaw
16 gwybu 'r gwas llwyd breuddwyd braw
17 Hwyr it felen yspardun
18 Aro fi heno fy hun.
19 [219v] Arfau drwg i ddigoni
20 yw'r cywyddau sy dau di
21 Ciliais i stafell gell gau
22 ac addurn oedd i'r gwyddau
23 Meddwn i o'm ystafell
24 ni bu rhag gofal wâl well
25 Codes hên fam-wydd drwyn-bant
26 a'i phlu oedd ddiddos iw phlant
27 Datod mentyll i'm deu-tyu
28 dialaeth y famaeth fu.
29 Am dylud o'r wydd lud lai
30 am dunustr, a'm bwrw danai
31 Cares, drwg iawn i'm cyweiriwyd
32 Cu aran balf lydan lwyd
33 Meddai fy chwaer i'm dranoeth
34 meinir deg mwyn-air a doeth
35 Seithwaeth genthi no'n cyflwr
36 ein dau, ac no geiriau'r gwr
37 Gweled hên fam-wydd blwydd-blu
38 gogam wddw goeg i'm maeddu
39 Pe gatai arglwyddiaeth
40 gwyr Caer au gwaryau caeth
41 Gwnawn i'r fam-wydd dramgwydd dro
42 rhybuddied rhai ai beiddio
43 Amarch iw chorpws naw-mlwydd
44 am ei hwyl yr wyl yr wydd
Dd' ap Gwilym
Nodiadau
30 Tanlinellwyd a'm bwrw danai ac
ychwanegwyd ar ymyl y ddalen: ni amadwaenai